Mae  mudiadau hawliau dynol wedi galw am  ymchwiliad seneddoI ar unwaith i ddefnydd gynau taser gan yr Heddlu.

Mae Amnest Rhyngwladol ymhlith nifer o fudiadau sydd wedi anfon llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref yn San Steffan, Keith Vaz, yn galw am ymchwiliad i ystyried a yw’r rheolaeth ar ynau Taser a hyfforddiant i’w defnyddio yn ddigonol.

Mae’r mudiadau’n bryderus fod defnydd o ynau Taser ar grwpiau bregus fel plant neu bobol sydd â chyflyrau meddygol sylfaenol neu bryderon iechyd meddwl.

Marwolaethau

Daw’r alwad yn dilyn marwolaeth y chwaraewr pêl-droed Dalian Atkinson ar ol iddo gael ei saethu gan wn taser. Cafodd drawiad ar y galon ar y ffordd i’r ysbyty ar ôl y digwyddiad ddydd Llun diwethaf.

Mae Comisiwn Cwynion yr Heddlu yn ymchwilio i’r  mater ac maeymchwil troseddol wedi dechrau i ymddygiad dau heddwas o Heddlu Gorllewin Mercia.

Mae gynau Taser wedi bod yn bwnc llosg yn ddiweddar yn dilyn nifer o achosion yn cynnwys marwolaeth Jordon Begley, pan d dyfarnawyd fod defnydd o ynau Taser wedi cyfrannu at ei farwolaeth.

‘Cwestiynau difrifol’

“Yn dilyn cyfres o achosion trasig, mae cwestiynau difrifol yn gorfod yn cael eu gofyn am ymchwiliad trwyadl i benderfynu os yw’r arfau hyn yn cael eu defnyddio yn iawn ac yn gyfrifol, yn enwedig gyda chynnydd yn nifer yr arfau ar ein strydoedd,” meddai Oliver Sprague ar ran Amnest Rhyngwladol.

“Mae gynau taser yn offer defnyddiol, ond yn hynod o beryglus ac fe allan nhw lad pan fyddan nhw’n cael eu cam-ddefnyddio.

“Dyna pam ei bod yn bwysig i gael eglurder  pan fo’r arfau yn cael eu defnyddio, gyda’r safonau uchaf yn ei lle i hyfforddi, goruchwilio a gwerthuso eu defnydd..”