Y criw'n dathlu'r newydd
Mae un o drefi lleiaf Sir Benfro wedi derbyn arian Loteri er mwyn plannu 1,000 o goed afalau yn yr ardal.

Derbyniodd Hanes Llandoch yn Llandudoch, Sir Benfro, gyfanswm o £247,410 o’r Gronfa Loteri Fawr ar gyfer perllan gymunedol ble bydd y coed afalau’n cael eu plannu.

Y nod yw creu cyfleoedd hyfforddiant, addysg ac ymgysylltu ar gyfer cannoedd o bobol a hefyd gwella’r amgylchedd naturiol.

Mae’r berllan gymunedol yn un o naw o brosiectau ar draws Cymru sy’n rhannu’r £2,907,263 o grantiau yn rownd ddiweddaraf Pawb a’i Le.

‘Cefnogaeth anhygoel’

“R’yn ni wedi cael cefnogaeth anhygoel gan ein cymuned leol yn Llandudoch a dyn ni gyd yn edrych ymlaen at weld y prosiect amgylcheddol tair blynedd hwn yn dwyn ffrwyth,” meddai Nia Siggins o Hanes Llandoch.

“R’yn ni’n  gwybod bod llawr o waith caled eto o’n blaenau – mae gyda ni fil o goed i’w plannu! Ond bydd rhywbeth i alluogi pawb yn y gymuned leol i gymryd rhan yn y prosiect a chwarae ran wrth greu’r hyn yr ’yn ni’n gobeithio fydd yn etifeddiaeth amgylcheddol dymor hir.”

Prosiectau eraill

Mae prosiectau eraill sydd wedi derbyn nawdd gan y Loteri yn y rownd ddiweddaraf yn cynnwys £896,571 i elusen Barnardo’s a fydd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi plant a theuluoedd sydd wedi’u heffeithio oherwydd bod rhiant yn y carchar.

Ac yn Wrecsam, bydd Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam mewn partneriaeth â Phrifysgol Glyndwr a CAIS yn derbyn £493,784 i sefydlu gorsaf radio ble mae pobl sy’n gwella ar ôl camddefnyddio cyffuriau ac alcohol yn cynhyrchu rhaglenni a rhannu eu profiadau trwy radio.