Mae dyn 22 oed o wledydd Prydain wedi cael ei drywanu i farwolaeth tra roedd e ar ei wyliau yn Ayia Napa yng Nghyprus.
Cafodd dyn arall, sydd hefyd yn 22 oed, ei anafu yn yr ymosodiad.
Roedden nhw’n cerdded i lawr y stryd pan ymosododd dau ddyn arnyn nhw yn dilyn ffrwgwd.
Bu farw’r dyn o ganlyniad i anafiadau i’w wddf.
Cafodd y dyn arall ei drywanu bedair gwaith yn ei gefn, ond dydy ei fywyd ddim mewn perygl.
Mae lle i gredu mai dynion o dramor yw’r ddau y mae’r heddlu’n chwilio amdanyn nhw mewn perthynas â’r digwyddiad.