Mae dyn o Fwlgaria wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dynes o Fwlgaria yng Nghaerwysg.
Dydy Gergana Prodonova, 38, ddim wedi cael ei gweld ers dydd Llun, pan oedd hi i fod yn y gwaith.
Mae hi’n cael ei disgrifio fel dynes o gorffolaeth denau, yn 5’6″ a chanddi wallt du hir.
Bydd Kostadin Kostov, 42, yn mynd gerbron ynadon yn y ddinas ddydd Llun.
Mae Heddlu Dyfnaint a Chernyw yn parhau i apelio am wybodaeth.