Car heddlu yn Baton Rouge yn Louisiana
Mae o leiaf dri o bobol wedi marw yn dilyn llifogydd difrifol yn nhalaith Louisiana yn yr Unol Daleithiau.

Mae o leiaf un person ar goll o hyd, ac mae argyfwng wedi cael ei gyhoeddi.

Fe fu’n rhaid i’r gwasanaethau brys dynnu pobol o’u ceir a’u cartrefi, ac mae disgwyl iddyn nhw fod yn brysur drwy gydol y dydd ddydd Sul hefyd.

Dywedodd llywodraethwr y dalaith, John Bel Edwards na welwyd y fath lifogydd erioed o’r blaen yn y dalaith.

Fe fu’n rhaid iddo fe a’i deulu adael eu cartref wrth i’r ardal golli trydan.

Mae rhybudd i bobol yr ardal fod yn wyliadwrus am y tro ac i aros yn eu cartrefi oni bai bod rhaid iddyn nhw adael.

Yn ôl yr heddlu, aeth bron i 125 o geir yn sownd yn y llifogydd.

Mae rhwng chwech a 10 modfedd o law wedi cwympo yn y dalaith ers dydd Gwener, ac mae disgwyl rhagor o law dros y dyddiau nesaf.

Mae argyfwng hefyd mewn nifer o siroedd yn nhalaith Mississippi oherwydd y glaw.