Cafodd dynes ei chludo i’r ysbyty brynhawn dydd Sadwrn yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic a cherbyd 4×4 ar yr A465 yn Sir Fynwy.

Roedd hi’n gyrru beic modur Triumph yn ardal Llangiwa am oddeutu 2.45yp.

Cafodd hi anafiadau difrifol yn y gwrthdrawiad.

Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad.