Alex Salmond
Mae Alex Salmond wedi amddifyn y ffaith iddo dderbyn taliad o £29,000 ar ôl sefyll i lawer o fod yn Aelod o Senedd yr Alban.
Mae cyn-Brif Weinidog yr Alban wedi dod dan y lach am dderbyn yr arian, er ei fod wedi para ymlaen i fod yn Aelod Seneddol yn San Steffan, a’i fod yn ennill miloedd o bunnoedd trwy ei waith ar y cyfryngau.
Mae llefarydd ar ran Mr Salmond yn dweud ei fod yn rhoi mwy o arian i achosion da nag unrhyw wleidydd Albanaidd arall.
Y cefndir
Fe ymddiswyddodd Alex Salmond o fod yn ASA tros Ddwyrain Sir Aberdeen cyn etholiadau Holyrood ym mis Mai eleni. Mae bellach yn llefarydd ei blaid ar faterion tramor yn y Senedd yn San Steffan.
Mae cyn-Aelodau o Senedd yr Alban yn derbyn taliad sy’n ganran o’u cyn-gyflog ac yn dibynnu ar faint o flynyddoedd y buon nhw yn y gwaith.
Bwriad y grant ydi eu cynorthwyo i dalu a gwneud yn iawn am y newid yn eu ffordd o fyw, ar ôl gadael y Senedd ac addasu i fywyd newydd.