Ed Miliband
Mae cyn-arweinydd y blaid Lafur yn dweud ei fod yn cefnogi Aelod Seneddol Pontypridd yn y ras i ddewis yr arweinydd nesa’.

Mae Ed Miliband yn dweud mai Owen Smith ydi’r ymgeisydd sydd â’r cymwysterau gorau ar gyfer y gwaith o uno’r blaid ac o ddelio ag oblygiadau y cyfnod wedi pleidlais ‘Brexit’.

Mae Jeremy Corbyn yn y gorffennol wedi disgrifio Ed Miliband fel un o’i “ffrindiau mawr”.

Ond, mewn fideo ar YouTube, mae Ed Miliband wedi cadarnhau mai Owen Smith fydd yn cael ei gefnogaeth.