Y ddiweddar Miriam Briddon o Cross Inn ger Cei Newydd
Mae teulu o Geredigion sy’n ceisio cael ‘cyfiawnder’ i’w merch a gafodd ei lladd gan yrrwr oedd yn yfed a gyrru, wedi mynd â’u brwydr at Lywodraeth Prydain.
Mae’r teulu Briddon, o Gross Inn, Cei Newydd, wedi dechrau deiseb yn galw ar y Llywodraeth i newid dedfrydau carchar pobol sydd wedi lladd ar ôl yfed a gyrru, gan nad ydyn nhw’n credu eu bod yn ddigon llym.
Cafodd deiseb ‘A Moment for Miriam’ ei lansio dydd Llun ac mae eisoes wedi cyrraedd dros 1,500 o lofnodion.
Bu farw Miriam Briddon, 21, mewn gwrthdrawiad ar 29 Mawrth 2014, tra’n gyrru i gyfeiriad Felin Fach, at dŷ ei chariad.
Roedd gyrrwr y car, Gareth Entwistle, wedi bod yn yfed, yn gyrru’n rhy gyflym, ac wedi methu cymryd y tro yn y ffordd pan darodd gar Miriam.
Cafodd ddedfryd o bum mlynedd a hanner i ddechrau, gyda’r ddedfryd honno yn cael ei lleihau i bum mlynedd a bydd ond yn treulio dwy flynedd a hanner dan glo, gan gael ei ryddhau’r flwyddyn nesaf.
“Rhwystredigaeth”
Mae’r ddeiseb yn galw am newid y canllawiau wrth ddedfrydu gyrwyr sy’n lladd wrth yfed a gyrru, i gael dedfrydau llymach er mwyn atal pobol rhag yfed a gyrru yn y dyfodol.
“Y tu hwnt i’r torcalon, y galar a’r dicter rydym yn teimlo tuag at y gyrrwr, rydym hefyd yn teimlo yn rhwystredig gyda system gyfreithiol y wlad hon,” meddai teulu Miriam ar dudalen ar-lein y ddeiseb.
“Fyddwn ni byth yn cael cyfiawnder am Miriam. Mae’r canllawiau dedfrydu presennol a’r gyfraith yn sarhad i’w bywyd. Fydd newidiadau yn y gyfraith ddim yn gwneud unrhyw wahaniaeth i ddedfryd llofrudd Miriam, ond mae’n rhaid i ganllawiau dedfrydu newid er mwyn pobol eraill.
“Pan fydd bywyd diniwed yn cael ei gymryd, dylai’r gosb adlewyrchu difrifoldeb y drosedd. Mae achosi marwolaeth drwy yfed a gyrru yn drosedd ddifrifol iawn.
“Dyw yfed a gyrru ddim yn gamgymeriad, mae’n benderfyniad! Os ydych yn gyrru’ch cerbyd ar ôl yfed, yna rydych yn yrrwr peryglus.”
Merch “dalentog a hael”
Roedd Miriam Briddon yn un o bedair chwaer, ac yn efail unfath. Mae ei theulu yn ei disgrifio fel “person prydferth, y tu fewn a’r tu allan.”
“Roedd yn dalentog, yn hael, yn dyner ac yn annwyl. Roedd gan Miriam gymaint i’w gynnig mewn bywyd ond cafodd eu cynlluniau a’u gobeithion am y dyfodol eu cymryd oddi arni’r noson honno.”