Mae Llysgennad China wedi rhybuddio bod perthynas Prydain a China mewn man “tyngedfennol hanesyddol,” wrth i Lywodraeth Prydain baratoi at gyflwyno penderfyniad terfynol ynglŷn â phrosiect niwclear Hinkley Point C.

Byddai’r orsaf bŵer niwclear yng Ngwlad yr Haf yn cael ei gyllido gan ddarparwr ynni niwclear o China a’r cwmni ynni o Ffrainc EDF.

Ond, ar ôl cael ei phenodi’n Brif Weinidog, cyflwynodd Theresa May ddatganiad i oedi’r prosiect gwerth £18 biliwn, oriau’n unig wedi i fwrdd EDF gymeradwyo’r prosiect ym mis Gorffennaf.

Ac mewn llythyr yn y Financial Times heddiw mae Llysgennad China, Liu Xiaoming, yn pwyso am benderfyniad ar y mater gan Brydain, gan obeithio bod y “drysau’n dal ar agor” i China.

‘Tyngedfennol’

Yn ei erthygl, esboniodd Liu Xiaoming fod cwmnïau o China wedi buddsoddi mwy yn y DU nag yn yr Almaen, Ffrainc a’r Eidal gyda’i gilydd yn y bum mlynedd ddiwethaf oherwydd y “ffydd gyfunol a’r parch rhwng y ddwy wlad.”

“Ar hyn o bryd, mae perthynas China a’r DU mewn man hanesyddol tyngedfennol,” meddai wedyn.

“Rwy’n gobeithio y bydd y DU yn cadw eu drysau ar agor i China a bydd Llywodraeth Prydain yn parhau i gefnogi Hinkley Point – ac yn dod i benderfyniad cyn gynted â phosib fel y gellir parhau â’r prosiect yn hwylus.”

Effaith ar Wylfa?

Pan gyhoeddodd Llywodraeth Prydain eu bwriad i oedi prosiect Hinkley Point C, fe wnaeth Ysgrifennydd yr Economi a Seilwaith Llywodraeth Cymru alw am “eglurder ar frys” am effaith hynny ar ddatblygiad gorsaf ynni niwclear Wylfa Newydd, Ynys Môn.

Ddiwedd mis Gorffennaf, dywedodd Ken Skates ei bod hi’n “hollbwysig sicrhau nad yw unrhyw adolygiad yn amharu ar ddatblygiad pwysig Wylfa.”