Mae dyn a gafodd ei drywanu wedi iddo, yn ôl pob tebyg, fynd i geryddu grwp o ddynion ifanc oedd yn fandaleiddio ceir, mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Fe gafodd Heddlu Swydd Bedford eu galw i stryd yn Luton toc wedi 11yh nos Sul.

Mae’r grwp o bump dyn wedi’u disgrifio fel dynion Asiaidd rhwng 15 a 20 oed.

“Rydyn ni wrthi’n ymchwilio i’r posibilrwydd y gallai’r dyn fod wedi’i drywanu wedi iddo weld grwp o ddynion yn fandaleiddio ceir yn Luton,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Roedd hwn yn ddigwyddiad hyll, ac mae wedi achosi anafiadau difrifol i’r dioddefwr.”