Llyr Thomas
Yn ôl y swyddog rygbi cyntaf i gael ei benodi gan brifysgol yng Nghymru, ei brif fwriad yn y swydd yw denu mwy o fyfyrwyr at y gamp.
Roedd Llŷr Thomas yn siarad â golwg360 ar ddiwrnod cyntaf ei swydd newydd, sy’n “gyfrifoldeb mawr”, meddai, gan mai fe yw’r unig swyddog o’r fath yng Nghymru.
“Dw i eisiau cadw cymaint â phosib o fyfyrwyr i chwarae rygbi ac agor y gamp i bawb, nid dim ond y rhai sy’n ei chwarae (yn aml),” meddai ar ei ddiwrnod cyntaf yn y gwaith.
Mwy o dwrnamentau rygbi?
Dywedodd ei fod am ehangu ar dwrnament saith bob ochr Aberystwyth, sy’n denu miloedd i’r dref bob blwyddyn ar benwythnos Calan Mai.
“Mae hwnna’n dwrnament fawr, mae lot yn y brifysgol yn chwarae yn hwnna, felly mae e’n apelio at lot yn barod ond hwnna yw’r unig (gyfle) maen nhw’n cael i chwarae,” ychwanegodd.
“Mae lot yn mwynhau (y twrnament), felly fi’n gobeithio rhoi mwy o gyfle iddyn nhw chwarae dros y flwyddyn, naill ai mewn cynghrair saith bob ochr, neu gynghrair (rygbi) cyffwrdd.
Byddai cynghrair newydd yn cael ei chwarae rhwng neuaddau myfyrwyr y brifysgol, meddai.
Gobeithio denu myfyrwyr Cymraeg
Mae Llŷr Thomas yn cael ei gyflogi ar y cyd rhwng Prifysgol Aberystwyth ac Undeb Rygbi Cymru, a bydd yn helpu cynnal timau’r brifysgol yn ei waith.
Mae’r rhain yn cynnwys dau dîm o fechgyn, dau dîm o ferched a thîm Y Geltaidd, cymdeithas chwaraeon Gymraeg y brifysgol.
Dywedodd hefyd ei fod yn gobeithio y bydd y ffaith ei fod yn siarad Cymraeg yn denu mwy o fyfyrwyr Cymraeg i Aberystwyth.
“Es i ddim i (brifysgol) Aberystwyth ond ges i fy magu yma, felly fi’n deall mor bwysig yw (y Gymraeg) i’r brifysgol,” meddai.
Mae ei benodiad, meddai, yn dangos bod y brifysgol yn cymryd y gamp “o ddifrif” a bod hynny hefyd yn mynd i fod o gymorth i ddenu myfyrwyr sy’n hoffi chwarae rygbi.