Mae Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dweud bod sylwebaeth Gymraeg ar gemau Cymru ym mhencampwriaeth Ewro 2016 wedi bod yn “hollbwysig”.
Ian Gwyn Hughes oedd yn gyfrifol am waith marchnata’r tîm yn ystod yr ymgyrch llwyddiannus, a oedd yn cynnwys anfon negeseuon dwyieithog ar ei dudalennau cyfryngau cymdeithasol a rhoi’r geiriau ‘DIOLCH’ ar grysau’r chwaraewyr.
Roedd gan y tîm hashnod dwyieithog ar Twitter hefyd – #GorauCydChwarae a #TogetherStronger, a welodd y Gymraeg yn cael sylw ar lwyfan ryngwladol y gystadleuaeth am y tro cyntaf erioed.
Wrth siarad yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy, fe wnaeth y pennaeth cyfathrebu ganmol y gwasanaeth sylwebu ar S4C.
“Dwi’n credu bod sylwebaeth yn y Gymraeg ar S4C yn hollbwysig,” meddai, cyn ychwanegu bod “safon y cyflwyno a’r cynhyrchiad” gan BBC Cymru wedi bod yn “hynod o uchel.”
Canu clodydd y tîm sylwebu
Fe wnaeth Ian Gwyn Hughes, a gafodd gyfle i sgwrsio â golwg360 ar faes yr Eisteddfod, hefyd ganmol Nic Parry am ei sylwebu, cyflwyno Dylan Ebenezer a gwaith dadansoddi cyn-chwaraewyr fel Malcom Allen ac Owain Tudur Jones.
Roedd yn siarad gyda is-hyfforddwr tîm Cymru, Osian Roberts, mewn digwyddiad wedi’i drefnu gan S4C er mwyn diolch i’r tîm a nodi “un o’r cyfnodau mwyaf cyffrous” ar y sianel ers ei sefydlu ym 1982, meddai prif weithredwr y sianel, Ian Jones.
Dywedodd fod y tîm wedi “creu cymaint o falchder, mwynhad, a dagrau … am y rhesymau cywir, ymhlith cenhedlaeth o ddilynwyr pêl-droed Cymru.
“Rwy’n falch iawn fod S4C yn cynnal y digwyddiad er mwyn nodi un o’r cyfnodau mwyaf cyffrous sydd wedi bod ar y sianel ers ei sefydlu ym 1982, gyda darlledu ymgyrch ryfeddol y tîm a’i dilynwyr yn Ffrainc.
“Dwi’n ffyddiog y bydd eu cyfraniad dros y gêm, dros y genedl a dros Gymru i’w deimlo am flynyddoedd lawer i ddod.”