Mae’r Swyddfa Twyll Difrifol (SFO) wedi agor ymchwiliad troseddol i honiadau o dwyll, llwgrwobrwyo a llygredd o fewn y cwmni hedfan Airbus sydd â safle yn Sir Fflint.
Ym mis Ebrill, fe wnaeth y cwmni adeiladu awyrennau ddatgelu eu bod mewn trafodaethau ag awdurdodau Prydeinig am “anghysonderau ffeithiol” a ganfuwyd mewn ceisiadau ar gyfer gwarantau credyd Llywodraeth y DU.
Ac mewn datganiad ddoe, fe wnaeth llefarydd ar ran Airbus gadarnhau eu bod yn cydweithio â’r Swyddfa Twyll Difrifol wrth iddyn nhw gynnal ymchwiliadau.
“Mae grŵp Airbus wedi cael eu hysbysu bod yr SFO wedi dechrau ymchwiliad troseddol i honiadau o dwyll, llwgrwobrwyo a llygredd ym musnes y cwmni hedfan Grŵp Airbus mewn perthynas ag anghysondebau o ran ymgynghorwyr trydydd parti,” meddai’r llefarydd.
Mae pencadlys cwmni Grŵp Airbus yn Toulouse yn Ffrainc ac mae safle arall yn Filton ger Bryste, a’r safle ym Mrychdwn Sir y Fflint ydy un o brif gyflogwyr yr ardal.