Nathan Gill
Mae disgwyl i Bwyllgor Gweithredol Cenedlaethol UKIP gyfarfod heddiw i drafod dyfodol Arweinydd UKIP yng Nghymru, a dweud a ddylai gael ei ddiarddel ai peidio.

Daw hyn yn dilyn galwadau gan y Pwyllgor i Nathan Gill roi gorau i un o’i swyddi, naill ai fel Aelod Seneddol Ewropeaidd neu Aelod Cynulliad yng Nghymru, erbyn ddoe (Awst 7).

Cafodd yr alwad ei hategu gan bump o gyd Aelodau Cynulliad UKIP Nathan Gill, a ddywedodd nad yw’n bosib iddo gynnal dwy swydd, ac y byddai cyflawni’n llai na’r disgwyl yn “sarhad i’r Cynulliad ac i Gymru.”

Gill yn mynnu’i le

Ond, mae Nathan Gill yn mynnu nad yw am gamu o’r neilltu o’r un o’i swyddi, ac mae wedi galw penderfyniad y Pwyllgor ynglŷn â’r posibilrwydd o’i ddiarddel fel rhywbeth “annemocrataidd a di-sail”.

Mae’n dadlau nad oes unrhyw fanteision personol iddo o gynnal dwy swydd, ac y byddai isetholiad yn anorfod pe bai’n rhoi’r gorau i’w rôl fel ASE.

Byddai hynny’n “gost sylweddol i’r trethdalwr am rôl sy’n debygol o dynnu tua’i derfyn yn y dyfodol agos,” meddai mewn llythyr agored yr wythnos ddiwethaf.

Mae Nathan Gill wedi cynrychioli’r Senedd yn Ewrop ers 2014, ac ym mis Mai eleni fe ddaeth yn Aelod Cynulliad ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru.