Nigel Farage Llun: PA
Mae UKIP yn paratoi i gyhoeddi pwy fydd yr ymgeiswyr i olynu’r arweinydd Nigel Farage.

Mae adroddiadau’n awgrymu na fydd Steven Woolfe ar y rhestr ar ôl iddo fethu â chyflwyno’i enw’n brydlon.

Fe gyflwynodd ei enw 17 o funudau ar ôl i’r amser cau fynd heibio.

Mae Woolfe, sydd wedi’i gefnogi yn y ras gan yr Aelod Cynulliad Nathan Gill, wedi cyhuddo Douglas Carswell ac arweinydd y blaid yn y Cynulliad, Neil Hamilton o geisio’i atal rhag bod yn ymgeisydd.

Bydd yr ymgeiswyr yn cael eu cyhoeddi am ganol dydd.

Roedd Woolfe yn cael ei ystyried yn ffefryn i gael ei ethol ac ers y ffrae, fe ddaeth i’r amlwg hefyd ei fod e wedi methu â dweud pan safodd fel ymgeisydd yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu yn 2012 ei fod e wedi cael ei gollfarnu am yfed a gyrru.

Dywedodd ei fod e “wedi anghofio” am y gollfarn pan safodd yn ardal Manceinion.

Mae e hefyd yn gwadu nad oedd e’n aelod am gyfnod yn 2014 ar ôl i’w aelodaeth ddod i ben.

Mae Farage wedi annog pleidleiswyr i ddewis arweinydd all cynrychioli’r blaid “ar yr holl lwyfannau cyfryngol”, ac mae’n dweud y dylai’r arweinydd newydd wrthod cydweithio â phwyllgor gwaith y blaid sydd, meddai, yn “rhwystr i newidiadau radical a moderneiddio”.

Mae disgwyl i Lisa Duffy, Bill Etheridge a Jonathan Arnott fod yn y ras.