Awyren Emirates
Mae awyren a oedd yn teithio o India, gyda  300 o bobl ar ei bwrdd, wedi bod mewn damwain ym mhrif faes awyr Dubai, meddai Emirates, cwmni awyrennau mwya’r Dwyrain Canol.

Cafodd 10 o’r teithwyr eu cludo i’r ysbyty wedi’r digwyddiad ac fe gyhoeddodd Emirates bod diffoddwr tan wedi marw wrth ymateb i’r ddamwain.

Roedd yr awyren EK521 wedi teithio o ddinas Thiruvananthapuram yn ne India.

Yn ôl adroddiadau ar wefannau cymdeithasol roedd mwg du i’w weld yn codi o awyren Emirates ar y safle.

Roedd 24 o Brydeinwyr ar fwrdd yr awyren ar y pryd.

Fe ddigwyddodd y ddamwain am 12.45yh (amser lleol), meddai’r cwmni.

Dywedodd Emirates mai ei “flaenoriaeth yw diogelwch a lles yr holl bobl sy’n gysylltiedig.”