Mae sustem sain newydd sbon wedi’i dwyn oddi ar Faes y brifwyl yn Y Fenni, a hynny o un o’r stondinau mwya’ poblogaidd.
Mae golwg360 yn deall bod asiantaeth Llenyddiaeth Cymru wedi buddsoddi mewn offer sain newydd er mwyn cynnal digwyddiadau llai ffurfiol Lolfa Lên eleni, ond bod y sustem honno wedi’i dwyn ar nos Sadwrn gynta’r eisteddfod.
Doedd neb o Lenyddiaeth Cymru yn fodlon gwneud sylw am y lladrad heddiw, ond cafwyd ganddyn nhw gadarnhad bod y sustem sain wedi diflannu. Doedden nhw chwaith ddim yn fodlon dweud beth oedd gwerth y sustem sain.
Yn dilyn y lladrad, maen nhw wedi bod yn defnyddio sustem sain wrth-gefn er mwyn parhau i gynnal eu digwyddiadau sy’n trafod pob math o agweddau ar lenyddiaeth – o drafod cerddi’r Goron, i sesiwn gan Fardd Plant Cymru, i drafod cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn.
Mae swyddogion diogelwch yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cael gwybod am y digwyddiad, a does dim adroddiadau am unrhyw ladrad arall hyd yn hyn.