David Cameron (Llun: o'i dudalen Facebook)
Mae ffrae yn corddi yn dilyn honiadau bod David Cameron yn bwriadu anrhydeddu ffigurau amlwg yn yr ymgyrch i aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn ei restr anrhydeddau ymddiswyddo.

Mae Aelodau Seneddol y gwrthbleidiau wedi galw am ddiwygio’r system yn llwyr yn sgil honiadau bod y cyn-Brif Weinidog yn ceisio gwobrwyo ymgynghorwyr personol, cyfranwyr gwleidyddol a ffigurau amlwg eraill yn yr ymgyrch Remain.

Daw’r ffrae yn dilyn adroddiadau yn y Sunday Times bod David Cameron wedi argymell anrhydeddu pedwar o’i gyn-aelodau yn y Cabinet, a oedd o blaid aros yn rhan o’r UE, sef Philip Hammond, Michael Fallon, Patrick McLoughlin, a David Lidington.

Mae hefyd wedi cynnwys y cyn-Ganghellor George Osborne yn ei restr anrhydeddau ymddiswyddo, yn ôl y papur newydd.

Yn ôl dirprwy arweinydd y Blaid Lafur Tom Watson, mae’n ymdrech gan David Cameron i wobrwyo ei ffrindiau gan ychwanegu y bydd yn tanseilio’r system anrhydeddau.

Mae’r ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur, Owen Smith, hefyd wedi dweud bod angen diwygio’r system yn llwyr yn sgil yr helynt, ac wrth drydar ei ymateb, dywedodd arweinydd Ukip Nigel Farage bod “gormod yn cael eu gwobrwyo am eu methiant.”

Mae Downing Street wedi gwrthod gwneud sylw.