Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A4054 yn ardal Pontypridd neithiwr.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd Merthyr rhwng pentrefi Cilfynydd a Glyn-taf tua 7.45yh nos Sul, Gorffennaf 31, rhwng Volkswagen Polo a Ford Focus.

Cafodd gyrrwr y Volkswagen Polo anafiadau difrifol, a dioddefodd y pedwar yn y Ford Focus fân anafiadau.

Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw dystion i gysylltu ag Uned Heddlua’r Ffyrdd De Cymru ar 02920 633 438 neu ffonio 101.