Carwyn Jones Llun: Y Blaid Lafur
Ar faes yr Eisteddfod yn y Fenni heddiw, bydd Prif Weinidog Cymru a Gweinidog y Gymraeg yn cyhoeddi cynigion Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.

Fe fyddan nhw’n cyhoeddi dogfen ymgynghorol i annog pobl i “ddweud eu dweud” ar sut i gyrraedd yr uchelgais hwn.

“Mae angen i ni barhau i helpu pobl i ddefnyddio’r iaith mewn ffyrdd mwy ymarferol, creadigol a difyr,” meddai Carwyn Jones.

“Fodd bynnag, ni all y Llywodraeth gyflawni hyn heb help. Felly, rwy’n awyddus i Gymru gyfan fod yn rhan o’r drafodaeth,” meddai.

‘Gweithredu nid ymgynghori’

Er hyn, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu’r ymgynghoriad gan ddweud ei bod yn bryd  “gweithredu nid ymgynghori” dros yr iaith.

Maen nhw’n amlygu mai dim ond tair blynedd yn ôl y cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad tebyg, sef y ‘Gynhadledd Gawr’ yn dilyn canlyniadau Cyfrifiad 2011.

“Mae’n frawychus bod y Llywodraeth yn mynd i ymgynghori eto,” meddai Jamie Bevan, Cadeirydd y Gymdeithas.

“Wedi blynyddoedd o ymgynghori ac adroddiadau mae angen gweithredu, nid mwy o siarad. ‘Dyn ni’n credu bod yr atebion i’r argyfwng wedi cael eu rhoi i’r llywodraeth, ac mae digon o dystiolaeth gyda nhw i weithredu yn gadarnhaol o blaid yr iaith a’n cymunedau yn syth.”

Chwe maes allweddol

Bydd y ddogfen yn cael ei lansio am 2pm ddydd Llun, ac ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru hyd at ddiwedd mis Hydref.

Mae’n ymdrin â chwe maes allweddol, gan gynnwys:

  • Cynllunio
  • Gwneud yr iaith yn rhan o fywyd pob dydd
  • Addysg
  • Pobl – eu bwriad yw annog mwy o siaradwyr Cymraeg i drosglwyddo’r iaith i’w plant, a gweld mwy o weithleoedd a chymunedau’n defnyddio’r Gymraeg.
  • Cefnogaeth – datblygu adnoddau’r Gymraeg.
  • Hawliau – datblygu statws swyddogol yr iaith yng Nghymru.

‘Bwriadol uchelgeisiol’

Yn ôl Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg: “Mae cyrraedd miliwn o siaradwyr yn darged sy’n fwriadol uchelgeisiol.

“Mae heriau o’n blaenau, ond gallwn wynebu’r rheini heb os gan wybod ein bod yn adeiladu ar sylfaen gref,” meddai.

“Mae creu gwlad ddwyieithog yn rhywbeth y mae’n rhaid i’r genedl gyfan ei wneud gyda’i gilydd. Ni all gwleidydd orfodi hyn, ond gall arwain y ffordd. Rwy’n awyddus i sicrhau bod pobl yn cael cyfle i ddysgu Cymraeg a chael addysg Gymraeg ym mhob rhan o’r wlad, a’u bod wedyn yn hyderus i ddefnyddio’r iaith ac yn dymuno ei defnyddio ar bob adeg,” ychwanegodd.