Mae bachgen 12 oed wedi’i ddwyn i’r ddalfa ar amheuaeth o fod â rhan yn llofruddiaeth dyn yn ei 40au y tu allan i fwyty McDonald’s yn ardal Manceinion.

Mae dyn ifanc 17 oed, a dau fachgen 16 oed, hefyd wedi’u dyn i’r ddalfa gan Heddlu Greater Manchester.

Fe gafodd yr heddlu eu galw toc fyn 10.50yh nos Fercher i ddigwyddiad y tu allan i McDonald’s ar Warrington Street yn nhre’ Ashton-under-Lyne.

Yno, fe ganfuwyd dyn yn ei 40au wedi’i anafu, ac fe gafodd ei ddwyn i’r ysbyty. Ond bu farw yn ystod oriau mân dydd Iau.