Mae’r frwydr i olynu Nigel Farage yn arweinydd plaid UKIP wedi dechrau yn swyddogol. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau oedd hanner dydd heddiw (dydd Sul).

Y ceffyl blaen ar hyn o bryd ydi Steven Woolfe, pennaeth polisi’r blaid, ond mae cefnogaeth hefyd i’r cynghorydd Lisa Duffy ac i’r Aelodau Senedd Ewrop, Bill Etheridge a Jonathan Arnott.

Y cam nesa’ ydi cyhoeddi rhestr yr ymgeiswyr, a bydd hynny’n digwydd ddydd Mawrth, wedi i’r enwau gerbron gael eu gwirio.

Fe gyhoeddodd Nigel Farage ei fod yn gadael y swydd drannoeth y refferendwm Undeb Ewropeaidd ddiwedd Mehefin. “Dw i eisiau fy mywyd yn ôl,” meddai bryd hynny, “a dw i ei eisiau o’n ôl rwan.”