Mae lyncs a ddihangodd o sw yn Nyfnaint, ac sydd wedi bod ar goll am dair wythnos, wedi’i ddal a’i ddychwelyd i’w gaets.

Fe aeth Flaviu ar goll o Barc Swolegol Dartmoor ger Plymouth ar Orffennaf 7, ac fe fu chwilio mawr am y gath gan hofrennydd yr heddlu a dron.

Ond fe gafodd Flaviu ei ddal fore Sadwrn, er bod arbenigwyr bywyd gwyllt yn ofni y gallai gymryd hyd at dri mis.