Mae ditectifs yn chwilio am help y cyhoedd wrth geisio dod o hyd i gorff tad i dri o blant a gafodd ei ladd yn 2009.

Saith mlynedd union ers marwolaeth Jesse Richards, mae heddlu Gorllewin Mersia yn annog y gymuned leol yn Cleeve Prior, Sir Gaerwrangon, i’w helpu ddod o hyd i’w weddillion.

Roedd Jesse Richards yn byw yn Surrey, ond yn dod yn wreiddiol o Gaerloyw, ac fe gafodd ei ladd ar Orffennaf 31, 2009, tros ddyled yn ymwneud â chyffuriau.

Y gred ydi fod corff y dyn 41 oed wedi’i gario i ardal Swydd Warwick, a’i waredu gan ei ymosodwyr. Fe gafodd tri o ddynion eu carcharu am ddynladdiad yn 2012.