E-lun o'r ddau ddyn sy'n cael eu hamau o geisio herwgipio aelod o’r lluoedd arfog Llun: Heddlu Norfolk/PA Wire
Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i ymgais i herwgipio aelod o’r lluoedd arfog wedi rhyddhau e-lun o’r dynion maen nhw’n eu hamau.
Mae’r lluniau’n cael eu rhyddhau wythnos ar ôl y digwyddiad yn RAF Marham yn Norfolk lle’r oedd dau ddyn arfog gyda chyllell wedi ceisio cipio aelod o’r lluoedd arfog.
Yn dilyn y digwyddiad, cafodd nodyn ei rannu ymysg staff milwrol yn eu cynghori i gadw proffil isel ac i beidio bod ar eu pen eu hunain ar droed neu ar feic mewn unrhyw wisg neu ddilledyn sy’n eu cysylltu gyda’r lluoedd arfog.
Dau ddyn
Mae’r dynion, sydd wedi cael eu disgrifio fel rhai o’r Dwyrain Canol o ran ymddangosiad, yn parhau ar ffo ac nid yw eu cerbyd wedi cael ei ddarganfod. Mae’r ddau rhwng 20 a 30 oed a thua 5′ 10 i 6 troedfedd o daldra a gyda gwallt du.
Mae’r heddlu yn parhau i gynnal ymholiadau pellach o gwmpas y pentref ac yn awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi gweld unrhyw beth anarferol.
Er mai dim ond dau berson gafodd eu gweld yn ystod y digwyddiad, mae’r heddlu wedi dweud ei bod yn bosibl bod o leiaf un person arall yn y cerbyd.