Theresa May Llun; Hannah McKay/PA Wire
Fe fydd Theresa May yn dechrau ei thaith dramor gyntaf ers dod yn Brif Weinidog gydag ymweliad a Changhellor yr Almaen Angela Merkel ym Merlin, cyn iddi deithio i Baris yfory ar gyfer trafodaethau gydag Arlywydd Ffrainc Francois Hollande.

Fe fydd  Theresa May yn gadael am yr Almaen ar ol iddi wynebu ASau am y tro cyntaf yn Sesiwn Holi’r Prif Weinidog  yn Nhŷ’r Cyffredin. Mae disgwyl iddi gael ei herio am ei phenderfyniad i beidio rhuthro’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd (UE).

‘Cryfhau’r berthynas’

Dywedodd y Prif Weinidog ei bod yn bwriadu rhoi neges glir i Angela Merkel a Francois Hollande bod Prydain yn awyddus i gadw a chryfhau ei pherthynas gyda’u gwledydd hyd yn oed ar ol gadael yr UE.

Fe fydd yn pwysleisio nad yw hi’n bwriadu dechrau’r broses ddwy flynedd o drafod gadael yr UE nes bod Llywodraeth y DU wedi cael cyfle i ymgynghori gyda llywodraethau’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â gwahanol sectorau o ddiwydiant.

Dywedodd y byddai’r ymweliadau i Baris a Berlin yn gyfle i sicrhau “perthynas waith gref” a’i bod yn bwriadu datblygu hynny gydag arweinwyr eraill ar draws yr UE yn yr wythnosau a misoedd nesaf.