Andrea Leadsom
Mae galw am ddiswyddo aelod newydd o Gabinet Llywodraeth Prydain, a hynny am iddi ddweud bod peidio cyflogi dynion i warchod plant yn “gall iawn”.

Yn ôl y Lib Dems fe ddylai Andrea Leadsom, Gweinidog yr Amgylchedd yn Llywodraeth Theresa May, golli ei swydd newydd.

Yr wythnos ddiwethaf, pan roedd hi dal yn y ras i olynu David Cameron yn Brif Weinidog, bu Andrea Leadsom yn trafod gofal plant gyda phapur newydd The Times.

Meddai ar y pryd: “Gadewch i ni fod yn onest, tydi’r rhan fwyaf ohonom ni ddim yn cyflogi dynion i ofalu am blant, tydi’r rhan fwyaf ohonon ni ddim. Nawr fe gewch chi ddweud bod hynny’n secsist, rydw i’n dweud ei fod yn gall iawn pan rydych chi’n edrych ar yr ystadegau.

“Mae’r ods yn eich erbyn os ydych yn cyflogi dyn. Rydym yn gwybod bod pedoffiliaid yn cael eu denu at weithio gyda phlant. Mae’n ddrwg gen i ond dyna ydy’r ffeithiau.”

Ond yn ôl arolwg gan y Pre-school Leanring Alliance mae 97.9% o rieni yn hapus i ddynion ofalu am blant rhwng tair a phump  oed, ac roedd 89% yn hapus i ddynion weithio gyda phlant dan dair oed.

Mae Tim Farron, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, wedi dweud bod sylwadau Andrea Leadsom yn “wirion” ac yn “anwybodus” ac wedi dweud na ddylai fod yn rhan o’r Llywodraeth newydd.

Fe ddaeth ymgyrch Andrea Leadsom i fod yn Brif Weinidog i ben, a hynny wedi iddi awgrymu bod y ffaith bod ganddi blant yn ei gwneud yn well arweinydd na Theresa May.