Mark Carney, Llywodraethwr Banc Lloegr Llun: PA
Mae Llywodraethwr Banc Lloegr, Mark Carney, wedi penderfynu cadw cyfraddau llog yr un fath heddiw yn groes i ddisgwyliadau.

Roedd ’na ddyfalu y byddai gostyngiad yn y cyfraddau er mwyn rhoi hwb i’r economi yn sgil pleidlais Brexit.  Ond mae’n bosib y bydd gostyngiad yn y cyfraddau fis nesa, am y tro cyntaf mewn mwy na saith mlynedd.

Dim ond un aelod o wyth ar bwyllgor polisi’r banc wnaeth bleidleisio dros ostwng y cyfraddau llog ar unwaith o 0.5% i 0.25% oherwydd arwyddion bod y penderfyniad i adael yr UE eisoes yn effeithio rhannau o’r economi.

Roedd y rhan fwyaf o’r llunwyr polisi yn awyddus i aros hyd nes bydd rhagolygon chwarterol y Banc yn cael eu cyhoeddi ar Awst 4.

Y tro diwethaf i gyfraddau llog newid oedd ym mis Mawrth 2009, pan gafodd y cyfraddau eu torri i’r lefel isaf erioed o 0.5% ar anterth yr argyfwng ariannol.

Byddai gostyngiad yn y gyfradd llog yn newyddion da i fenthycwyr, ond byddai’n waeth byth i rai sy’n ceisio cynilo.