Llun: Gwefan GHA Coaches
Mae dros 300 o weithwyr i gwmni bysus GHA Coaches, wedi colli eu swyddi ar ôl i’r cwmni o Riwabon, ger Wrecsam, gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.
Mae’r cwmni yn gwasanaethu’r ddwy ochr i Glawdd Offa gan gynnwys awdurdodau lleol Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy a Gwynedd.
Yn ôl y BBC, cafodd un gweithiwr wybod nad oedd swydd iddi drwy neges destun.
Bydd y gwasanaethau yn dod i ben ar unwaith ac mae’r newyddion wedi achosi tipyn o broblemau i deithwyr.
Mae gwasanaeth bws Traws Cymru rhwng Y Bermo a Wrecsam, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, hefyd yn cael ei redeg gan GHA.
Dod o hyd i weithredwr arall
Yn ôl Cyngor Wrecsam, roedd wedi cael gwybod yn fyr rybudd na fyddai GHA Coaches yn gweithredu bore ‘ma a’r flaenoriaeth oedd sicrhau bod disgyblion yn gallu mynd i’r ysgol.
Dywedodd ei fod yn “hyderus” i gael gweithredwr arall i gynnal rhai o’r gwasanaethau oedd GHA Coaches yn eu darparu.
Mae’r cwmni bellach yn nwylo’r gweinyddwyr, Grant Thornton.