Teyrngedau wedi'u rhoi i David Cameron ar ei ddiwrnod olaf yn ei swydd
Mae David Cameron wedi derbyn hyd at 5,500 o gwestiynau fel Prif Weinidog.

Dyna oedd ei amcangyfrif wrth gymryd rhan yn ei Sesiwn Holi olaf cyn i Theresa May ei olynu’n ddiweddarach.

Ond dywedodd mai mater i bobol eraill fyddai penderfynu sawl cwestiwn a gafodd atebion ganddo ar hyd y blynyddoedd.

Wrth i’r tynnu coes ddechrau, roedd gan nifer o’i gydweithwyr a’i wrthwynebwyr awgrymiadau ar gyfer swydd newydd i Cameron, gan gynnwys cyflwynydd Top Gear neu reolwr tîm pêl-droed Lloegr.

Dywedodd Cameron fod y swyddi hynny’n “swnio’n fwy anodd byth” na bod yn Brif Weinidog.

Fe dalodd deyrnged i’w wrthwynebydd, Jeremy Corbyn, ac fe fynegodd ei gariad at Larry y gath.

Dymunodd Corbyn yn dda iddo fe a’i deulu, gan ddweud ei fod e wedi gofyn 179 o gwestiynau i’r Prif Weinidog.

Diolchodd Corbyn i fam Cameron “am ei chyngor ynghylch teis a siwtiau a chaneuon”.

Wrth awgrymu swydd i Cameron, ychwanegodd Corbyn: “Mae yna si bod eich ymadawiad wedi cael ei goreograffio’n ofalus fel y gallwch chi lithro’n esmwyth i’r gwagle a gafodd ei greu y bore ma gan ymadawiad Len Goodman.”

Wrth ymateb, dywedodd Cameron nad oedd ganddo fe “pasa doble, felly na, galla’i addo nad dyna fydd yn digwydd”.