Rhaid datrys y sefyllfa, medd y Ceidwadwyr Cymreig
Gallai oedi pellach ynghylch sefydlu trac rasio Cylchffordd Cymru yng Nglyn Ebwy fod yn drychinebus, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae cynlluniau wedi cael eu cyflwyno o’r newydd yr wythnos hon ar ôl i Lywodraeth Cymru wrthod cefnogi’r cynlluniau gwreiddiol ar sail “risg annerbyniol”.

Dywedodd llefarydd economaidd y Ceidwadwyr, Russell George fod y cynlluniau’n “gyffrous”, gan ychwanegu fod rhaid datrys yr ansicrwydd cyn gynted ag y bo modd.

Dywedodd y byddai rhagor o oedi’n “drychinebus” i’r cynllun, ac y byddai gwrthod y cynlluniau newydd yn ergyd i’r Cymoedd.

Mewn datganiad, dywedodd: “Mae’n glir ein bod ni wedi cyrraedd yr amser am benderfyniad ynghylch Cylchffordd Cymru, a byddai rhagor o oedi’n drychinebus i’r prosiect.

“Ar ôl treulio nifer o flynyddoedd yn trafod ei fanteision, ni allwn adael i’r ansicrwydd rygnu ymlaen dros yr haf.”

Tra’n cydnabod fod angen bod yn ofalus, ychwanegodd y byddai cefnu ar y prosiect hwn yn “ergyd drom i’r rhanbarth”.

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth, “ym mis Ebrill, penderfynwyd y byddai risg annerbyniol i yswirio’r buddsoddiad cyfan o £357.4 miliwn ar gyfer y prosiect.”

Er hyn, ychwanegodd y llefarydd fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn cynnig wedi’i adolygu ynglŷn â’r prosiect ers hynny a’u bod wedi rhoi “ystyriaeth fanwl i’r cynigion dros yr wythnosau diwethaf.”

“Rydyn ni wedi gweithio gyda Chylchffordd Cymru i ddarparu cefnogaeth i’r prosiect hwn am gyfnod hir,” meddai’r llefarydd.

“Mae’n brosiect sylweddol ac rydym wastad wedi bod yn glir fod unrhyw gefnogaeth sy’n cael ei ddarparu gan y trethdalwyr yn gymesur ac yn deg.”