Angela Eagle Llun: Lauren Hurley/PA Wire
Wrth lansio’i hymgyrch swyddogol i ddisodli Jeremy Corbyn fel arweinydd y Blaid Lafur, mae Angela Eagle wedi dweud bod ganddi’r gallu i “uno’r blaid unwaith eto.”
Fe lansiodd cyn-ysgrifennydd busnes yr wrthblaid ei hymgyrch yn Llundain, yn sgil rhybuddion y gallai hollti’r blaid yn ddyfnach, wrth i Jeremy Corbyn wrthod ildio.
Mae disgwyl iddo frwydro i sicrhau bod ei enw yntau ar y papur pleidleisio hefyd i aelodau’r blaid, lle mae’r gefnogaeth iddo yn gadarn.
Daw ymgyrch Angela Eagle ar ôl i 172 o Aelodau Seneddol Llafur ddweud nad oes ganddyn nhw hyder yng ngallu Jeremy Corbyn i arwain y blaid.
Dim ond 40 o ASau’r blaid a arhosodd wrth ei ochr.
‘Bwriadu ennill’
Mae Angela Eagle wedi dweud ei bod yn bwriadu ennill yr her dros arweinyddiaeth y blaid, gan ddweud nad ydy hi am “adael i Brydain ddod yn wladwriaeth un blaid y Torïaid.”
Fe fynnodd ei bod am “uno Llafur” ond bod “llawer mwy” i’r ymgyrch, gan awgrymu na all Llafur ennill etholiad cyffredinol dan arweinyddiaeth Corbyn.
“Mae hyn yn ymwneud â’n democratiaeth yn ogystal â’n plaid. Mae am roi gobaith i bobol ledled y wlad bod Llafur yn gallu bod yn ddewis arall, yn barod ac yn gallu gwasanaethu,” meddai.
“Y gwir blaen yw nad yw’r wlad yn credu hynny pan maen nhw’n edrych arnom ar hyn o bryd. Ond byddan nhw yn gwneud hynny os byddaf yn ennill y frwydr hon. Ac mae angen eich help i’w hennill.”
Apeliodd ar bobol sydd am weld “Plaid Lafur a gwleidyddiaeth well” i ymuno â’r blaid, i’w “helpu i newid Llafur er gwell.”
“Rwy’n berson sy’n dod â phobol ynghyd, dw i ddim yn eu rhannu. Byddaf yn uno, fydda’i ddim yn rhannu. Gallaf uno ein plaid eto.
“Dw i’n caru fy mhlaid ac yn caru fy ngwlad. Rydym ar groesffordd. Dw i’n barod i arwain.”