Safle Wylfa Newydd Llun: Horizon
Mae deg o bobl ifanc o Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy wedi derbyn prentisiaeth gan y cwmni sy’n gyfrifol am ddatblygu atomfa niwclear Wylfa Newydd ar Ynys Môn.
Mae ‘Cynllun Prentisiaeth Dechnegol Horizon’ yn gynllun tair blynedd rhwng Coleg Menai a chwmni Horizon, a bydd y bobl ifanc yn dechrau eu hyfforddiant ym mis Medi.
Mae Horizon yn nodi mai dyma’r criw cyntaf o brentisiaid lleol, a’u bod yn gobeithio cynnig mwy o gyfleoedd yn y dyfodol.
‘Arwydd gwych o’r gwaith’
Heddiw oedd y tro cyntaf i’r criw ymweld â safle Wylfa Newydd, ac wrth eu croesawu dywedodd Greg Evans, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynhyrchu Horizon: “Rydych chi ar fin ymuno ag un o’r prosiectau ynni mwyaf o ran maint a mwyaf cyffrous yn Ewrop.”
“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw iddyn nhw ddechrau eu gyrfaoedd gyda ni mewn ychydig fisoedd. Nhw fydd y prentisiaid lleol cyntaf o’u math gydag olyniaeth faith yn eu dilyn am flynyddoedd lawer i ddod,” ychwanegodd.
Ac yn ôl Sasha Davies, Pennaeth Datblygu Strategol Cymru ar ran Horizon: “Mae prentisiaid Horizon yn arwydd gwych o’r gwaith sy’n cael ei wneud tuag at gyflenwi Wylfa Newydd.”
“Mae hwn yn brawf bod Pŵer Niwclear Horizon, un o bartneriaid allweddol Rhaglen Ynys Ynni Ynys Môn, yn cyflwyno cyfleoedd o’r radd flaenaf i bobl ifanc leol”.
Fe wnaeth y cwmni hysbysebu’r prentisiaethau ym mis Chwefror eleni, gan nodi y bydd cyfleoedd gwaith hefyd i hyd at bump o raddedigion.