Andrea Leadsom a Theresa May
Bydd Prif Weinidog nesa’r DU yn ddynes wedi i Theresa May ac Andrea Leadsom guro Michael Gove mewn pleidlais ymysg Aelodau Seneddol heddiw i ddewis y ddau ymgeisydd i olynu David Cameron.

Enillodd Theresa May 199 o bleidleisiau, cafodd Andrea Leadsom 84 o bleidleisiau a Michael Gove ddaeth yn olaf gyda 46 pleidlais.

Bydd yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, ac Andrea Leadsom, Gweinidog Ynni’r Llywodraeth nawr yn cystadlu mewn pleidlais fydd yn cael ei chynnal ymhlith holl aelodau’r blaid.

Wedi iddi ddod i’r brig yn y bleidlais ymysg ei chyfoedion, dywedodd Theresa May bod y DU angen arweinydd “profiadol, cryf” i fynd i’r afael â thrafodaethau Brexit ac uno’r wlad.

Dywedodd Michael Gove, yr Ysgrifennyd Cyfiawnder ei fod yn “naturiol yn siomedig” ond bod y ddwy yn “wleidyddion cadarn.”

Roedd Andrea Leadsom yn ffigwr amlwg yn yr ymgyrch o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd ac mae hi wedi cael cefnogaeth cyn-Faer Llundain ac ymgyrchydd blaenllaw Brexit, Boris Johnson.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog gael ei phenodi ar 9 Medi ond mae na alwadau i gyflymu’r broses.