Simon Lewis Llun: Heddlu De Cymru
Mae dyn wedi ei gael yn euog o achosi marwolaeth tad a’i fab o Gaerdydd trwy yrru’n beryglus.
Cafwyd Kyle Kennedy, 29, o Dredelerch, Caerdydd yn euog yn Llys y Goron Caerdydd heddiw o achosi marwolaeth Simon Lewis a’i fab Simon – a oedd heb ei eni ar adeg y ddamwain – drwy yrru’n beryglus ar Nos Galan y llynedd.
Bu farw Simon Lewis, 33, o Trowbridge, Caerdydd, pan wnaeth ei Daihatsu Sirion wrthdaro gyda Peugeot 307 ar Lamby Way yn y brifddinas.
Hefyd yn y Daihatsu roedd gwraig feichiog Simon Lewis, Amanda, a’u merch dair oed, Summer. Cafodd Simon Jr ei eni yn fuan ac ar frys ar Ionawr 3 ond bu farw yn yr ysbyty’r diwrnod hwnnw.
Roedd Kyle Kennedy wedi gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn ond roedd wedi cyfaddef achosi eu marwolaeth drwy yrru’n ddiofal.
Roedd Kyle Kennedy wedi ei wahardd rhag gyrru ar adeg y ddamwain ac roedd wedi ei gael yn euog o nifer o droseddau yn y gorffennol – gan gynnwys ceisio taro plismon pan oedd yn gyrru beic modur.
Clywodd y llys hefyd ei fod wedi cymryd y Peugeot a oedd yn ei yrru pan ddigwyddodd y ddamwain heb ganiatâd.
Bydd Kyle Kennedy yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener.