Tony Blair
Mae nifer o fudiadau wedi galw am weithredu’n gyfreithiol ac yn wleidyddol yn erbyn cyn-Brif Weinidog Prydain, Tony Blair yn dilyn cyhoeddi Adroddiad Chilcot i’r rhyfel yn Irac.

Roedd Blair, ynghyd â swyddogion Whitehall a rhai o swyddogion y fyddin, i gyd wedi cael eu beirniadu yn yr adroddiad.

Yn ôl pennaeth Stop the War Coalition, mae Adroddiad Chilcot yn dweud popeth y bu’r mudiad yn ei ddweud ers degawd.

‘Perthynas ffiaidd’

Dywedodd Lindsey German: “Ry’n ni wedi bod yn dweud ers blynyddoedd fod Blair yn diystyru’r Cenhedloedd Unedig a’i fod e yn y berthynas ffiaidd yma â George Bush.

“Ni ddylai [Adroddiad] Chilcot fod yn ddiwedd y mater – rhaid iddo fod yn ddechrau gweithgarwch cyfreithiol a gwleidyddol yn erbyn Blair.”

Cafodd sylwadau’r mudiad am Blair eu hategu gan Greenpeace, wrth i’w cyfarwyddwr gweithredol John Sauven ddweud: “Mae’r adroddiad hwn yn cadarnhau’r hyn yr oedden ni eisoes yn ei wybod – sef fod llywodraeth Blair wedi anfon Prydain i ryfel trychinebus ar sail bygythiadau oedd wedi cael eu gor-ddweud, gwaith dyfalu wedi’i wisgo i fyny fel cudd-wybodaeth, a rhethreg wyntog.”

Ychwanegodd fod heriau’r byd heddiw’n galw am fwy o gydweithio nag erioed o’r blaen.

“Allwn ni ddim cael amgylchfyd iachus heb heddwch, ac allwn ni ddim cael heddwch heb amgylchfyd iachus.”

‘Dwyn i gyfri’

Dywedodd arweinydd PCS, Mark Serwotka nad yw’r undeb yn “cymryd unrhyw bleser” o fod wedi cael eu profi’n gywir nad oedd mynd i ryfel yn Irac yn syniad doeth.

Ychwanegodd fod rhaid “dwyn i gyfri” y rhai oedd yn gyfrifol am y penderfyniad.

‘Barn Charles Kennedy wedi cael ei brofi’

Roedd y diweddar Charles Kennedy yn iawn i amau penderfyniad Llywodraeth Prydain i fynd i ryfel yn Irac yn 2003, yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron.

Roedd Kennedy, fu farw’r llynedd, yn un o brif feirniaid y llywodraeth yn dilyn eu penderfyniad i ymosod ar Irac.

Yn dilyn cyhoeddiad Adroddiad Chilcot, dywedodd Farron fod “Blair yn benderfynol o ymuno â Bush wrth fynd i ryfel yn Irac waeth bynnag am y dystiolaeth, ei gyfreithlondeb neu’r canlyniadau difrifol posib.”

Ychwanegodd Farron: “Mae barn Charles Kennedy wedi cael ei brofi ym mhob ffordd.

“Gobeithio y bydd y sawl yn y Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr oedd mor gadarn eu beirniadaeth ohono fe a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar y pryd yr un mor gadarn eu cydnabyddiaeth heddiw ei fod e’n gywir.”

Ychwanegodd Farron fod Blair yn “gyd-beilot” i Bush wrth fynd i ryfel yn Irac.