Mae dros hanner poblogaeth Prydain yn credu fod safle’r gwledydd yn y byd a’r economi wedi gwaethygu ers Brexit, yn ôl arolwg.

Gyda’r system wleidyddol yn wynebu argyfwng, tra bod y Canghellor George Osborne yn cyhoeddi sioc economaidd, mae 7% o bleidleiswyr Gadael yn edifar eu bod wedi cefnogi Brexit, yn ôl yr arolwg gan gwmni holi barn Opinium.

Wythnos ers y canlyniad, mae un o bob pump yn teimlo dirywiad yn eu sefyllfa ariannol.

Mae dros 60% yn credu fod angen cyhoeddi etholiad cyffredinol cyn i drafodaethau ddechrau ar Frexit gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Roedd 33% yn gweld rheoli mewnfudo fel y prif bwnc, gyda 37% yn credu fod angen sicrhau fod Prydain yn aros yn y farchnad gyffredin.

Hefyd roedd 43% yn teimlo y byddai yn annhebygol y gallai gwledydd Prydain aros yn y farchnad gyffredin tra’n cyfyngu symudiad pobl, er mwyn rheoli mewnfudo.

Cafodd 2,001 o bobl eu holi gan Gwmni Opinium Research rhwng Mehefin 28 a Mehefin 30.