Mae rheolau newydd i berchnogion cŵn yn dod i rym heddiw’n Sir Gaerfyrddin.

Y nod yw mynd i’r afael â pherchnogion cŵn anghyfrifol gan bod y cyngor yn derbyn nifer o gwynion am faw cŵn yn cael eu gadael ar hyd a lled y sir, yn ogystal ag ymddygiad niwsans cŵn sydd ddim o dan reolaeth.

Mae’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (PSPO) wedi cael ei gyflwyno i roi mwy o hyblygrwydd i swyddogion fynd i’r afael â pherchnogion anghyfrifol cŵn a digwyddiadau sy’n ymwneud â chŵn.

Mae rhai rheolau’n disodli’r hen rai tra bod eraill yn newydd.

Mae’r rheolau yn cynnwys:

–        Rhaid glanhau baw eich ci ym mhob man cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin;

–        Rhaid rhoi eich ci ar dennyn sydd ddim mwy na dau fetr o hyd os yw swyddog yn gofyn i chi wneud hynny.

–        Gwahardd cŵn o holl ardaloedd chwarae plant sy’n yr awyr agored.

Awgrymodd ymgynghoriad bod o leiaf 87% o’r cyhoedd o blaid yr holl reolau.

Dywedodd y Cynghorydd Jim Jones y byddai’r rheolau newydd yn ei gwneud hi’n haws i swyddogion y cyngor “ddelio’n gyflym gyda’r lleiafrif o berchnogion cŵn sy’n ymddwyn yn anghyfrifol”.

Byddai methu â chydymffurfio â’r gorchymyn yn arwain at ddirwy o £100 a fyddai’n gostwng i £50 os yw’n cael ei dalu o fewn 10 diwrnod. Uchafswm y ddirwy os yw’r achos yn mynd i’r llys yw £1,000.