Ed Miliband, cyn-arweinydd Llafur Llun: PA
Mae Ed Miliband wedi galw ar ei olynydd Jeremy Corbyn i roi’r gorau i fod yn arweinydd y Blaid Lafur, gan ddweud ei fod mewn sefyllfa “anghynaladwy.”

Dywedodd cyn-arweinydd Llafur  ei fod wedi cefnogi Jeremy Corbyn “yr holl ffordd” ond mae bellach yn ei annog i ystyried “beth yw’r peth gorau i’r wlad.”

Mae Prydain yn wynebu’r argyfwng gwaethaf ers yr Ail Ryfel Byd, meddai Ed Miliband.

Cameron yn herio Corbyn

Mae ymyrraeth Ed Miliband yn dilyn apêl debyg gan Harriet Harman, Margaret Beckett a Gordon Brown ac mae’r Prif Weinidog David Cameron hefyd wedi herio Corbyn i roi’r gorau i fod yn arweinydd y blaid.

Yn ôl Ed Miliband mae nifer helaeth o aelodau’r blaid yn teimlo na all Corbyn “gwrdd â’r her” tra bod y wlad “mewn argyfwng” yn sgil canlyniad Brexit.

Ond mae’r rhai sy’n gweithio’n agos a Jeremy Corbyn yn mynnu na fydd yn ymddiswyddo.

Dywedodd llefarydd ar ei ran bod yr arweinydd yn “benderfynol o wneud y swydd mae wedi’i ethol yn ddemocrataidd i’w wneud.”

Ychwanegodd y byddai aelodau newydd cabinet yr wrthblaid yn cael eu penodi’n fuan.

Rhagor yn ymddiswyddo

Mae’n dilyn rhagor o embaras i Corbyn ar ôl i’r AS Llafur Pat Glass gyhoeddi heddiw ei bod yn ymddiswyddo o’i rôl fel llefarydd addysg y blaid, er iddi gael ei phenodi ddydd Llun.

Dywedodd Pat Glass fod y sefyllfa o fewn y Blaid Lafur yn anghynaladwy, ac nad oedd yn bwriadu sefyll fel aelod seneddol eto.

Doedd hi ddim yn y cyfri ar gyfer y refferendwm ar ôl derbyn bygythiadau i’w lladd yn ei hetholaeth yng ngogledd orllewin Durham ar ôl iddi bleidleisio i aros yn Ewrop.

Mewn llythyr yn nodi ei bwriad i gamu o’r neilltu fel aelod seneddol cyn yr etholiad cyffredinol nesaf, dywedodd fod y chwe mis diwethaf wedi bod yn “anodd iawn, iawn”.

Dywedodd fod y refferendwm wedi cael effaith negyddol arni hi a’i theulu, ar ôl i’r heddlu fod yn ymchwilio i’r bygythiadau yn eu herbyn.

Mae’r gweinidog llywodraeth leol cysgodol Emma Lewell-Buck hefyd wedi ymddiswyddo, gan ddweud bod cyflwr y blaid yn “dorcalonnus”.