Tafarn y Garreg Llun: Google
Mae timau achub wedi dod o hyd i grŵp o blant ysgol oedd wedi mynd ar goll ar Fannau Brycheiniog mewn tywydd gwael.
Roedd 26 o blant wedi bod ar goll ar ôl iddyn nhw gael eu gweld y tro diwethaf ger y dafarn leol, Tafarn Y Garreg, yn Abercraf ym Mhowys.
Roedd y grŵp, a oedd yn dod o ysgol yn St Albans yn Swydd Hertford, wedi bod yn cwblhau gweithgareddau fel rhan o Wobr Dug Caeredin.
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau bod pob un o’r plant wedi cael eu darganfod ac wedi dychwelyd o’r safle. Ni chafodd unrhyw un niwed, ond fe gawson nhw eu cludo i Ysbyty Gymunedol Ystradgynlais fel rhagofal.
Cafodd y timau achub eu galw am tua 1 o’r gloch y prynhawn ma ar ol i’r plant fynd ar goll ger Llyn y Fan Fach mewn glaw trwm a gwyntoedd cryfion.
Roedd hofrennydd yr Awyrlu o Sain Tathan wedi llwyddo i lanio ar y safle lle’r oedd y plant.
Dywedodd perchennog Tafarn Y Garreg, Andy Maglaras, fod y timau achub wedi defnyddio maes parcio’r dafarn fel safle ar gyfer yr ymgyrch achub.
“Mae tua 10 neu 15 o gerbydau yn rhan o’r chwilio a’r hofrennydd.
“Dywedon nhw wrthyn ni y byddan nhw’n dod â’r plant fan hyn i roi rhywbeth cynnes iddyn nhw yfed a’u cadw’n agos at y tân,” meddai.