Gallai 115 o weithwyr mewn ffatri gemegol yn y Barri golli eu swyddi wrth i’r cwmni rhyngwladol, Dow Chemical, geisio arbed 2,500 o swyddi ledled y byd.

Mae’r cwmni, sy’n cyflogi 629 o weithwyr ar y safle ym Mro Morgannwg, yn ail-strwythuro ar hyn o bryd, gan gyfuno â’i rhiant-gwmni, Dow Corning.

Mae penaethiaid y cwmni wedi cyfarfod â gweithwyr y ffatri a bydd cyfnod ymgynghori o 45 diwrnod yn dechrau diwedd y flwyddyn.

Un o ffatrïoedd mwyaf y cwmni

Y safle yn y Barri yw un o ffatrïoedd cynhyrchu mwyaf y cwmni, sydd wedi bod yn cynhyrchu nwyddau silicôn ers 1952, dan enw Midland Silicones yn wreiddiol, gyda’r cwmni’n cael ei brynu gan  Dow Corning yn 1971.

Mae’r safle yn darparu deunyddiau silicôn ar draws y byd, ac yn ôl gwefan y cwmni, dyma un o’r safleoedd mwyaf blaengar dros gynhyrchu silicôn yn y byd.

“Mae disgwyl gallai tua 155 o swyddi gael eu heffeithio gan y penderfyniad (i dorri swyddi) yn Dow Corning yn y Barri,” meddai llefarydd ar ran y cwmni.

Wrth drydar ei ymateb dywedodd arweinydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru Andrew RT: “Mae’r safle @dowcorning yn y Barri wedi bod yn gonglfaen i’r economi lleol a’r gymuned am ddegawdau – pwysig bod hyn yn parhau.”