Nigel Farage Llun: PA
Mae Nigel Farage wedi dweud wrth ei gyd-Aelodau Seneddol Ewropeaidd “d’ych chi ddim yn chwerthin rŵan” wrth iddo gael ei fwio mewn cyfarfod brys o’r Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel i drafod Brexit.

Mae arweinydd Ukip wedi eu cyhuddo o wrthod derbyn  argyfwng yr ewro a mewnfudo, a “gorfodi undeb gwleidyddol ar bobl Prydain drwy dwyll”.

Gyda’i dafod yn ei foch fe ddiolchodd iddyn nhw am “y croeso cynnes” gan ddweud: “Pan nes i ddod yma 17 mlynedd yn ôl a dweud fy mod eisiau arwain ymgyrch i gael Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd fe wnaethoch chi chwerthin arna’i.

“Wel, mae’n rhaid i fi ddweud, d’ych chi ddim yn chwerthin rŵan nag ydych?”

Wrth i’r gweiddi yn ystod y sesiwn amharu ar y drafodaeth, bu’n rhaid i lywydd y Senedd Martin Schultz ymyrryd, gan rybuddio’r aelodau bod “democratiaeth yn golygu bod yn rhaid gwrando ar y rheiny hyd yn oed os nad ydych yn rhannu’r un farn a nhw.”

Yn gynharach bu gwrthdaro rhwng Nigel Farage a llywydd Comisiwn yr UE, Jean-Claude Juncker a ofynnodd iddo pam ei fod wedi dod i’r cyfarfod.

“Fe fuoch chi’n brwydro dros adael, mae pobl Prydain wedi pleidleisio dros adael. Pam ydych chi yma?” gofynnodd Juncker.

Ymatebodd Nigel Farage drwy ddweud ei fod yn “bleser.”

Roedd y ddau i’w gweld yn cofleidio’i gilydd wedi hynny.