Awyren EgyptAir, Llun: PA/Andrew Milligan Wire
Mae arbenigwyr wedi llwyddo i drwsio recordiwr data awyren EgyptAir a blymiodd i Fôr y Canoldir ym mis Mai.
Ar fwrdd yr Airbus A320 roedd dyn a oedd yn wreiddiol o Gaerfyrddin, Richard Osman, 40 oed, ac yn dad i ddau o blant.
Roedd yr awyren yn cludo 56 o deithwyr a 10 o griw caban rhwng Paris a Chairo, ac mae sgriniau radar wedi dangos i’r awyren gylchdroi’n llwyr a cholli’i huchder cyn diflannu.
Ers hynny, mae’r tîm ymchwilio wedi llwyddo i ddod o hyd i recordiwr llais o’r caban hedfan a’r recordiwr data – sydd bellach wedi’i drwsio’n llawn.
Nid yw achos y digwyddiad wedi’i bennu eto, ac mae erlynwyr ym Mharis wedi agor achos o ddynladdiad gan ddweud nad oes digon o dystiolaeth i gysylltu’r achos â brawychiaeth.