David Cameron Llun: PA
Mae David Cameron wedi bod yn annerch Aelodau Seneddol prynhawn ma am y tro cyntaf ers cyhoeddi canlyniad y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Bu’r Prif Weinidog yn amlinellu’r broses a fydd yn digwydd nesa’ ar ôl i Brydain bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Cafwyd cadarnhad ganddo y bydd yr holl wledydd datganoledig yn “chwarae rhan gyflawn” yn y broses, wrth i uned yr Undeb Ewropeaidd yn Whitehall edrych ar y cymhlethdodau o adael Brwsel.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, yn ei ail ddatganiad ers y refferendwm, dywedodd na fydd yn dechrau’r broses ffurfiol o adael yr UE nes bod ei olynydd wedi’i benodi.

Y dyddiad tebygol i hynny ddigwydd yw 2 Medi.

Tasg “cymhleth a phwysig”

“Yn amlwg, hon fydd y dasg fwyaf gymhleth a mwyaf pwysig y bydd y Gwasanaeth Sifil Prydeinig yn ei wneud ers degawdau, felly bydd yr uned wrth wraidd y Llywodraeth a bydd yn cael ei arwain gan y staff gorau ledled y Gwasanaeth Sifil,” meddai.

Bydd yr uned yn gyfrifol am sicrhau bod y person sy’n cymryd lle David Cameron fel Prif Weinidog yn cael y “cyngor gorau posib” o’r eiliad y bydd y person hwnnw yn dechrau yn ei swydd.

Mae rhai o brif ffigurau’r UE, gan gynnwys llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker, wedi galw am ddechrau’r broses o adael yn syth.

Ond cyn gwthio Erthygl 50, y cymal dan gytundeb Lisbon, dywedodd David Cameron bod “yn rhaid i ni benderfynu ar y math o berthynas rydym am ei gael gyda’r UE.”

Fe bwysleisiodd David Cameron bod yn rhaid i’r Llywodraeth “dderbyn y canlyniad” sydd wedi dod gan bobl Prydain a “bwrw mlaen i’w weithredu.”