Carwyn Jones Llun: Senedd.tv
Mae Carwyn Jones wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog David Cameron yn galw arno i gadarnhau bod “pob ceiniog” o’r arian sy’n dod o Ewrop i Gymru yn ddiogel.
Bu cyfarfod brys o Gabinet Llywodraeth Cymru prynhawn ma i drafod ei hymateb i ganlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.
Mewn datganiad, dywedodd Prif Weinidog Cymru mai un o’r pryderon mwyaf sy’n wynebu Llywodraeth Cymru yw dyfodol tua hanner biliwn o bunnau’r flwyddyn mae Cymru yn ei gael gan yr UE i gefnogi’r diwydiant amaeth, ac i hybu rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig y wlad.
“Yn ystod y refferendwm fe wnaeth yr ymgyrch dros adael yr UE addewid cadarn y byddai’r arian yn parhau i ddod i Gymru yn sgil pleidlais dros adael yr UE. Rwyf wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog heddiw yn gofyn iddo gadarnhau bod pob ceiniog o’r arian yn ddiogel.”
Dywedodd Carwyn Jones eu bod angen cadarnhad “ar unwaith” gan fod dyfodol cannoedd o brosiectau hanfodol, sy’n cael eu hariannu gan yr UE, bellach yn y fantol oni bai bod sicrwydd bod yr arian yn parhau.
Ychwanegodd bod y Cabinet wedi cytuno y byddai “buddiannau Cymru a’i phobl yn flaenoriaeth” yn ei strategaeth wrth ymateb i ganlyniad y refferendwm “yn enwedig o ystyried y cythrwfl gwleidyddol digynsail a’r ansicrwydd sydd wedi deillio ohono,” meddai Carwyn Jones.
‘Hyder a sefydlogrwydd’
Mae pryder hefyd, meddai am yr effaith ar fusnesau a buddsoddiad yng Nghymru ac mae’r Cabinet wedi ymrwymo i gyflwyno cyfres o fesurau a fydd yn ceisio darparu cymaint o hyder a sefydlogrwydd ag sy’n bosib.
Fe fydd y mesurau yma yn cael eu cyhoeddi yn y dyddiau nesaf, meddai Carwyn Jones.
Mae disgwyl i’r cabinet ffurfio tîm o weision sifil arbenigol yn eu swyddfeydd ym Mrwsel, a fydd yn annibynnol o Lywodraeth y DU, er mwyn ystyried a fydd blaenoriaethau Cymru yn gallu parhau’n uniongyrchol gyda’r UE.
Fe fydd hyn yn cyd-redeg a thrafodaethau Llywodraeth y DU, meddai.
‘Hiliaeth yn hollol annerbyniol’
Mynegodd bryder hefyd am adroddiadau ynglŷn â “digwyddiadau hiliol sydd wedi cael eu cyfeirio at bobl sydd ddim yn dod o Brydain a phobl o leiafrifoedd ethnig sydd wedi’u geni yma yng Nghymru. Mae gweinidogion wedi cyhoeddi datganiad clir bod hiliaeth yn hollol annerbyniol yng nghymdeithas Cymru.”
Ychwanegodd: “Nid oes unrhyw beth wedi newid yn statws dinasyddion o dramor sy’n byw a gweithio yng Nghymru. Mae croeso iddyn nhw fel sydd wedi bod erioed.”
Mae Carwyn Jones wedi ysgrifennu at y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd yng Nghymru yn gofyn iddyn nhw fod yn wyliadwrus o’r sefyllfa.
Mae cynghorydd Llafur yng Nghaerdydd eisoes wedi dweud iddo ddioddef digwyddiad hiliol dros y penwythnos ers canlyniad y refferendwm.