Y camerau fydd yn cael eu gwisgo gan blismyn rheng flaen. Mae'r cynllun yn cael ei gyflwyno gan Gomisiynydd yr Heddlu, Arfon Jones, canol. Llun: PA
Bydd plismyn rheng flaen Gogledd Cymru i gyd yn gwisgo camerâu ar eu gwisg cyn hir, mewn cynllun fydd yn costio £163,000.
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu newydd y Gogledd, Arfon Jones, wedi cyhoeddi y bydd yn darparu’r arian i brynu 301 o’r camerau er mwyn cofnodi tystiolaeth troseddau wrth iddyn nhw ddigwydd.
Mae hyn ar ben y 120 o ddyfeisiau fideo sy’n cael eu gwisgo gan swyddogion yr heddlu ar hyn o bryd, tra bydd offer ychwanegol yn cael ei brynu yn ddiweddarach eleni i swyddogion arbenigol fel timau o swyddogion arfog.
“Mae (teclynnau) fideo sy’n cael eu gwisgo yn gwella’r gallu i gasglu tystiolaeth ac yn sicrhau mwy o gollfarnau, yn enwedig mewn achosion o drais domestig,” meddai Arfon Jones.
“Mae hefyd yn datrys cwynion yn erbyn yr heddlu achos mae’r dystiolaeth ar gamera yn ddiamau.
“Yn genedlaethol, yn ôl Coleg yr Heddlu, mae’r tebygolrwydd o erlyn yn llwyddiannus mewn achos o drais domestig wedi codi o 72% i 81% os oes fideo yn cael ei ddangos i’r rheithgor.
“Mae fideo wedi’i wisgo yn dda i bawb heblaw am droseddwyr. Does dim i fod yn bryderus ohono yn nhermau cael eich ffilmio ac os nad oes rhywbeth wedi digwydd mae’r fideo yn cael ei ddileu o’r system o fewn 30 diwrnod.”
Gogledd Cymru ‘mwy diogel’
Dywedodd y byddai’r camerâu yn gwneud Gogledd Cymru yn rhywle mwy diogel, wrth “erlyn yn gynt” a “diogelu pobol fregus rhag trais domestig a thrais o fathau eraill.”
“Mae hefyd yn golygu na fydd dioddefwyr bregus yn gorfod mynd i’r llys i roi tystiolaeth achos bod y dystiolaeth yn anorchfygol o’r camera.”
Mae’r Prif Uwch-arolygydd, Sacha Hatchett, sy’n arwain Gwasanaethau Cymorth Gweithredol Heddlu Gogledd Cymru, a Richard Eccles, ysgrifennydd Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru wedi croesawu’r penderfyniad.