Mae Hilary Benn wedi dweud nad yw Jeremy Corbyn yn “arweinydd”, ond ei fod yn “ddyn da”.

Daeth cadarnhad nos Sadwrn fod Benn wedi cael ei ddiswyddo fel llefarydd tramor yng nghabinet cysgodol Corbyn yn dilyn adroddiadau ei fod e wedi bod yn ceisio sicrhau y byddai nifer o aelodau’r cabinet yn ymddiswyddo pe bai Corbyn yn aros fel arweinydd.

Yn ôl Benn, mae “pryder cynyddol” ymhlith y cabinet am allu Corbyn i arwain y blaid, ac mae nifer o aelodau’r cabinet eisoes wedi ymddiswyddo ddydd Sul.

Dywedodd Hilary Benn wrth raglen Andrew Marr y BBC: “Ro’n i’n teimlo bod gyda ni gyfrifoldeb i’w gefnogi fe fel arweinydd y Blaid Lafur. Ond mae pryder cynyddol yn y Cabinet am ei arweinyddiaeth.”

‘Dim syndod’

Dywedodd fod angen gwneud “penderfyniadau o bwys mawr”, ond nad oedd ganddo fe “hyder y gallwn ni ennill etholiad tra bod Jeremy yn parhau’n arweinydd”.

Ond fe wfftiodd honiadau ei fod e wedi ymgyrchu i gael gwared ar yr arweinydd.

“Roedd aelodau’r cabinet cysgodol, fel y byddech chi’n ei ddisgwyl, wedi bod yn siarad â’i gilydd. Fe wnes i ddatgan fy safbwynt yn glir wrth Jeremy.

“Mae e’n ddyn iawn ond dydy e ddim yn arweinydd.”

Ond fe gyfaddefodd fod gan Corbyn yr hawl i’w ddiswyddo.

“Do’n i ddim wedi cael syndod. Fe wnaeth ei benderfyniad fel y mae hawl ganddo i’w wneud.

“Fe ddywedais i’r hyn roeddwn i’n meddwl oedd yn gywir. Rwy wedi ymroi ar hyd fy mywyd i hyn. Os nad yw pethau’n gweithio, mae gyda ni ddyletswydd i’r blaid ry’n ni’n ei charu i fod yn llafar.”

Diffyg hyder

Ond fe ddywedodd mai “penderfyniad i Jeremy” yw a fydd e’n ymddiswyddo neu beidio yn dilyn pleidlais o ddiffyg hyder yn ei erbyn, fydd yn cael ei drafod yn San Steffan yr wythnos hon.

“Yn y pen draw, penderfyniad Jeremy yw e a phenderfyniad y fainc flaen i weld beth fyddan nhw’n ei wneud.

“Yn bersonol dw i’n credu bod angen i ni weithio allan pa fath o berthynas rydyn ni am ei chael gyda’r Undeb Ewropeaidd. Rhaid i ni dderbyn canlyniad y refferendwm, ond rwy’n flin am y canlyniad.”

Dywedodd na fyddai’n sefyll fel ymgeisydd i arwain y blaid pe bai Corbyn yn ymddiswyddo.