Disgwyl rhagor o ymddiswyddiadau o gabinet Jeremy Corbyn
Mae’r rhestr o aelodau cabinet cysgodol y Blaid Lafur sydd wedi ymddiswyddo yn parhau i dyfu wrth i’r pwysau ar yr arweinydd Jeremy Corbyn i ymddiswyddo gynyddu.
Mae aelodau seneddol y blaid yn anfodlon ynghylch arweiniad Corbyn yn ystod y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.
Mae adroddiadau bod nifer yn rhagor yn parhau i ystyried eu dyfodol yn dilyn penderfyniad Corbyn i ddiswyddo Hilary Benn, y llefarydd tramor.
Y rhai sydd eisoes wedi ymddiswyddo yw:
- Lucy Powell (Addysg)
- Heidi Alexander (Iechyd)
- Gloria De Piero (Pobol Ifanc)
- Kerry McCarthy (Amgylchedd)
- Lilian Greenwood (Trafnidiaeth)
- Ian Murray (Yr Alban)
- Seema Malhotra (Prif Ysgrifennydd Cysgodol i’r Trysorlys)
- Vernon Coaker (Gogledd Iwerddon)
- Yr Arglwydd Falconer (Cyfiawnder)
- Karl Turner (Twrnai Cyffredinol Cysgodol)
Mae Chris Bryant (Arweinydd cysgodol Tŷ’r Cyffredin) hefyd yn ystyried a fydd yn ymddiswyddo.