Liam Fox - arweinydd nesa'r Ceidwadwyr?
Mae’r cyn-Ysgrifennydd Amddiffyn Ceidwadol, Liam Fox wedi dweud ei fod yn “ystyried” sefyl fel ymgeisydd i olynu David Cameron fel arweinydd y blaid.

Daeth sylwadau Fox ar ôl i’r cyn-arweinydd Iain Duncan Smith ddweud y dylai’r arweinydd newydd gael ei ddewis o blith y rhai oedd yn cefnogi gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae hynny’n golygu na fyddai’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May yn cael ei hystyried ar gyfer y swydd, er bod lle i gredu ei bod hi’n cael ei ffafrio gan y rhai sy’n ceisio atal Boris Johnson rhag dod yn brif weinidog.

Dywedodd Iain Duncan Smith wrth raglen Andrew Marr y BBC y byddai’n “anodd” i’r cyhoedd dderbyn rhywun oedd yn gwrthwynebu gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ychwanegodd fod rhaid i Lywodraeth Prydain “gyflawni o ran y mandad clir iawn gan bobol Prydain”.

Mae disgwyl i’r prif weinidog nesaf gael ei ddewis erbyn cynhadledd hydref y Ceidwadwyr ym mis Hydref.

Dywedodd Liam Fox wrth raglen Sunday Politics y BBC y byddai’n ffafrio gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn Ionawr 2019.

Wrth gael ei holi am ei fwriad i sefyll, dywedodd: “Dw i ddim wedi penderfynu eto. Rwy’n ystyried y peth, byddai’n anonest dweud fel arall. Ond bydda i’n gwneud penderfyniad unwaith dw i wedi siarad â’m cydweithwyr yn y Senedd.”

Mae’r Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond wedi galw ar ddarpar-ymgeiswyr i amlinellu eu bwriad i sicrhau cytundebau masnach y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

Ond mae Hammond yntau wedi dweud na fydd yn sefyll fel ymgeisydd.